Rydym yn dîm o Weithwyr Proffesiynol sy'n gweithio gyda plant a phobl ifanc a'u teuluoedd i helpu i reoli eu pwysau a gwella eu hiechyd corfforol ac emosiynol. Mae'r tîm yn cynnwys Pediatregydd, Dietegydd Arbenigol, Nyrs Arbenigol, Seicolegwyr ac Ymarferydd Cynorthwyol Therapi.

Oherwydd y Pandemig COVID-19 cyfredol, nid yw'r gwasanaethau yr ydym fel arfer yn eu cynnig yn rhedeg hyd y gellir rhagweld er mwyn amddiffyn ein teuluoedd a'n clinigwyr. Ar hyn o bryd, dim ond ymgynghoriadau ffôn a/ neu sesiynau rhithwir grŵp y gallwn eu cynnig gan ddarparu cyngor a chefnogaeth ymarferol.

Rydym yn parhau i dderbyn ffurflenni 'Cais am Gymorth' gan Weithwyr Iechyd Proffesiynol a bydd pob plentyn a pherson ifanc newydd a chyfredol a'u teuluoedd yn gallu 'optio i mewn' i'n gwasanaeth rhithwir neu ddewis cael eu hailgyfeirio yn nes ymlaen.

Yn ystod y cyfnod hwn, gall y cysylltiadau canlynol fod yn ddefnyddiol i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd barhau i gael cyngor a chefnogaeth.

Bydd yr holl ddiweddariadau ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol yn cael eu postio yma felly edrychwch ar y wefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

 

 

Cysylltu Adnoddau Defnyddiol (Dolenni/ Gwefannau)